Oxford PharmaGenesis yn agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd

10 November 2016

Share this page

english-button

 

Heddiw roedd Oxford PharmaGenesis yn dathlu agoriad swyddogol ei swyddfa yng Nghaerdydd gyda digwyddiad yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bae Caerdydd, ble roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn bresennol fel gwestai anrhydeddus.

Meddai’r Prif Weinidog: “Mae sector Gwyddorau Bywyd Cymru yn ddeinamig ac amrywiol, yn cyflogi oddeutu 11,000 o bobl mewn dros 350 o gwmnïau. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu’r sector ymhellach, a dyma pam ein bod wedi darparu hyd at £220 000 i gefnogi agoriad swyddfa newydd PharmaGenesis yng Nghaerdydd a fydd yn darparu 20 o swyddi newydd cyffrous i wyddonwyr medrus iawn yng Nghymru. Fel aelod o’r Hwb Gwyddorau Bywyd, mae PharmaGenesis yn rhan o niwclews canolog Cymru ar gyfer y sector, sy’n dod â busnesau, academyddion ac arianwyr ynghyd i annog arloesi a chydweithredu i greu buddsoddiad cynyddol a chyfleoedd swyddi.”

Wedi ei sefydlu yn 1998, mae Oxford PharmaGenesis yn ymgynghoriaeth gyfathrebu Gwyddorau Iechyd byd eang dan berchnogaeth annibynnol, yn darparu gwasanaethau ysgrifennu meddygol ac ymgynghori strategol o ansawdd uchel i’r diwydiannau fferyllol, dyfeisiau meddygol a biodechnoleg. Yn 2015, fe enillodd Wobr y Frenhines ar gyfer Menter am Gyflawniad Rhagorol mewn Masnach Ryngwladol.

Meddai Dr Richard White, y Cyfarwyddwr Masnachol: “Mae Oxford PharmaGenesis yn falch i fod y cwmni rhyngwladol cyntaf yn y sector cyfathrebu meddygol i sefydlu swyddfa yng Nghymru. Mae agor ein swydd yng Nghaerdydd yn dynodi ein bod yn arwain ein maes, ac yn nodi’r llwyddiant diweddaraf yn 19 mlynedd y cwmni o dwf cyson.”

Meddai Dr Ian Barwick, Prif Swyddog Gweithredol yr Hwb Gwyddorau Bywyd: “Rydym yn falch i groesawu Oxford PharmaGenesis fel un o’r newydd-ddyfodiaid diweddaraf i gymuned gwyddorau bywyd Cymru. Mae gan Gymru sector gwyddorau bywyd bywiog ac amrywiol sydd o werth sylweddol i economi Cymru ac edrychwn ymlaen at gael Oxford PharmaGenesis yn rhan o’r dyfodol cyffrous hwnnw. Bydd y gwasanaethau ysgrifennu ac ymgynghori meddygol maent yn darparu yn ychwanegiad gwerthfawr i fusnesau gwyddorau bywyd ar draws Cymru, ac mae’n galonogol gwybod bod eu penderfyniad i leoli yma wedi ei ddylanwadu gan bresenoldeb Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.”

Meddai Peter Llewellyn, Cyfarwyddwr NetworkPharma: “Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf tra dwi wedi bod yn datblygu’r gweithgaredd Rhwydweithio Cyfathrebu Meddygol, mae’r asiantaethau, a oedd wedi eu crynhoi o ran lleoliad mewn ambell i ardal benodol fel Rhydychen, Macclesfield a Llundain, wedi tyfu’n gryf ac wedi sefydlu canolfannau gweithgaredd newydd ledled y Deyrnas Unedig, yn arbennig yn Sussex, Caint, Swydd Caergrawnt ac, yn fwy diweddar, yn yr Alban o amgylch Glasgow. Mae’n dda ein bod nawr yn gweld cwmnïau fel Oxford PharmaGenesis yn ymestyn i Gymru ac yn manteisio ar y gronfa gyfoethog o dalent wyddonol sy’n bodoli yn y cymunedau academaidd a busnes yn ac o amgylch Caerdydd.”

Fel aelod newydd o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, bydd PharmaGenesis Caerdydd yn gweithio gyda’r gymuned busnesau gwyddorau bywyd lleol i ddod â meddyginiaethau a thechnolegau gofal iechyd newydd i gleifion mewn meysydd ble nad yw’r angen wedi ei ddiwallu ar hyn o bryd. Bydd y cwmni hefyd yn ymgysylltu gyda phrifysgolion lleol i amlygu cyfathrebu meddygol fel llwybr gyrfa manteisiol i wyddonwyr sydd eisiau bod ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth, a bydd ei staff newydd yn ennill sgiliau arbenigol sy’n berthnasol yn y farchnadle fyd-eang. Mae’r swyddfa newydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd (CBTC), Ffordd Senghennydd, ar gyrion campws Prifysgol Caerdydd.[vc_row][vc_column][vc_images_carousel images=”5309,5308,5306,5305,5303,5302,5301″ img_size=”medium” autoplay=”yes” wrap=”yes”][/vc_column][/vc_row]